Mae dau gyn-blismon oedd wedi datgelu’r honiadau bod delweddau pornograffig wedi cael eu darganfod ar gyfrifiadur gwaith Damian Green wedi cael eu beirniadu.

Dywedodd cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Manceinion, Syr Peter Fahy fod y ddau wedi mynd i “dir peryglus” ac y dylen nhw fod wedi cadw draw o’r byd gwleidyddol.

Daw’r sylwadau ar ôl i’r cyn-Dwrnai Cyffredinol, Dominic Grieve feirniadu’r weithred hefyd.

‘Sioc’

Ddoe, dywedodd cyn-dditectif Scotland Yard, Neil Lewis wrth y BBC ei fod e wedi cael “sioc” o sylweddoli yn 2008 faint o ddeunydd pornograffig oedd ar gyfrifiadur y Prif Ysgrifennydd Gwladol, sydd i bob pwrpas yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Mae’r honiadau diweddaraf yn debyg i’r rheiny gan gyn-Gomisiynydd Cynorthwyol Heddlu Llundain, Bob Quick fis diwethaf.

Mae Syr Peter Fahy wedi gwadu bod y ddau gyn-blismon yn gweithredu er lles y cyhoedd, gan fynnu bod ganddyn nhw ddyletswydd i gadw gwybodaeth sensitif o’r fath yn gyfrinachol.

“Mae’n dir peryglus iawn i blismon farnu a yw gwleidydd yn dweud celwydd neu beidio,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“Dim ond fel rhan o ymchwiliad troseddol y dylai hynny ddigwydd a hyd yn oed wedyn, mater i’r llys ydyw i benderfynu.

“Dylai’r heddlu hefyd fod yn ofalus wrth farnu am foesoldeb pobol eraill pan nad yw’n fater troseddol.”

‘Torri cod ymddygiad’

Mae Dominic Grieve wedi cyhuddo’r ddau gyn-blismon o dorri cod ymddygiad yr heddlu.

Dywedodd wrth raglen Newsnight BBC2 fod y mater yn “peri gofid” iddo fe.

“Rydyn ni’n rhoi pwerau i’r heddlu nad oes gan bobol eraill mohonyn nhw.

“Nid yw’n iawn ac ni allan nhw gamddefnyddio’r pwerau hynny.”

Mae Damian Green yn gwadu iddo edrych ar y delweddau pornograffig, ac mae e’n destun ymchwiliad arall yn sgil ei ymddygiad tuag at ddynes ifanc o fewn y blaid.

 

Mae Heddlu Llundain yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod sut y cafodd yr honiadau eu cyhoeddi.