Mae cwmni teithio Thomas Cook wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu yn cau 50 o’u siopau stryd fawr, gan osod 400 swydd yn y fantol.

Hyd yma, dydy’r cwmni ddim wedi rhyddhau rhestr o’r siopau bydd yn cau.

Ond, maen nhw wedi dweud mai siopau gerllaw siopau teithio eraill, a siopau sydd ddim yn denu digon o gwsmeriaid, fydd yn cau.

Mae’n bosib bydd canghennau yng Nghymru yn cael eu heffeithio, ond doedd y cwmni ddim am gadarnhau neu wrthod hyn wrth golwg360.

Y cynnydd yn y nifer o bobol sy’n bwcio teithiau ar y We sy’n rhannol gyfrifol am benderfyniad y cwmni – bellach mae 27% o wyliau’n cael eu bwcio ar-lein.

Gwasanaeth “o’r safon gorau”

“Rydym o hyd yn adolygu ein rhwydwaith siopau ledled y Deyrnas Unedig, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cynnig y gorau gallwn i gwsmeriaid,” meddai Cyfarwyddwr profiad cwsmeriaid Thomas Cook, Kathryn Darbandi.

“Mae’n glir bod yn rhaid i’n busnes weithredu ar sawl lefel, [trwy siopau ac ar lein] … Wnawn ni gynnig gwasanaeth o’r safon gorau i’n cwsmeriaid, mewn siopau ac ar lein.”

Daw cyhoeddiad y cwmni yn dilyn wythnos o gyhoeddiadau tebyg gan sawl cwmni stryd fawr gan gynnwys Banc Brenhinol yr Alban (RBS) a banc Lloyds.