Mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn Llundain yn ymladd am ei ddyfodol gwleidyddol wrth i gyn-blismon honni ei fod wedi dod o hyd i filoedd o luniau o bornograffi cyfreithiol ar ei gyfrifiadur naw mlynedd yn ôl.

Fe ddaw hynny wrth i Damian Green – a gafodd ei eni yn y Barri  – hefyd ddisgwyl canlyniadau i ymchwiliad ei fod wedi cyffwrdd coes Ceidwadwraig ifanc ac wedi anfon negeseuon coch ati.

Yn ôl papur newydd y Sun, fe fydd hwnnw’n ei feirniadu heb ei gael yn euog o dorri cod ymddygiad y gweinidogion.

Ond fe fydd dan fwy o bwysau fyth oherwydd honiadau’r cyn-blisman a oedd yn rhan o ymchwiliad cynharach i’w ymddygiad yn 2008.

‘Syfrdanu’

Fe ddywedodd y plismon, Neil Lewis, wrth y BBC ei fod wedi ei “syfrdanu” pan welodd filoedd o luniau pornograffig ar gyfrifiadur gwaith Damian Green, a oedd bryd hynny yn llefarydd mewnfudo i’r Ceidwadwyr.

Er fod y lluniau’n gyfreithlon ac heb fod yn ymwneud â phlant, roedd yn sicr mai Damian Green ei hun oedd wedi bod yn edrych arnyn nhw. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi gwadu hynny yn y gorffennol.

Mae wedi gwrthod ymateb i’r manylion diwetha’ gan ddweud nad oes modd dweud dim tra bod yr ymchwiliad arall yn parhau.

Damian Green yw un o gyfeillion gwleidyddol agosa’r Prif Weinidog, Theresa May, sydd wedi colli dau aelod o’i chabinet yn ystod yr wythnosau diwetha’ – Priti Patel, yr Ysgrifennydd Cymorth Tramor, a’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon.