Mae gwyddonwyr wedi croesawu cyffur newydd sydd yn medru haneru effeithiau cur pen eithafol y meigryn (migraine).

Mae cur pen eithafol yn medru para rhwng pedair a 72 awr, ac mae bod dros 8.5 miliwn o bobol yn dioddef ohonyn nhw bob blwyddyn.

Yn dilyn arbrawf ar 1,000 o gleifion, mae arbenigwyr wedi profi bod y cyffur ‘Erenumab’ yn medru cwtogi hyd a pha mor aml y mae’r boen yn taro.

Dyma’r tro cyntaf, ers ugain mlynedd, i wyddonwyr ddarganfod cyffur sy’n medru rhwystro’r fath ymosodiadau.

Cam “pwysig” ymlaen

“Mae’r [arbrawf] … yn cynrychioli cam hynod bwysig ymlaen, o ran dealltwriaeth o’r cyflwr,” meddai arweinydd yr ymchwil, yr Athro Peter Goadsby o Ysbyty King’s College.

“Mae canlyniadau [yr arbrawf] yn cynrychioli gwir newid i gleifion y meigryn – o driniaethau nad ydyn yn deall yn rhy dda, i driniaeth sydd ar gyfer y meigryn yn benodol.”