Mae’r cricedwr Alex Hepburn wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o dreisio, ac wedi’i wahardd o’i waith gan Glwb Criced Swydd Gaerwrangon.

Cafodd y dyn 21 oed ei gyhuddo ddechrau’r mis, ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon ar Ragfyr 7.

Fe fydd yn derbyn ei gyflog yn llawn yn ystod ei waharddiad.

Dydi’r clwb ddim wedi gwneud sylw pellach.

Yn y cyfamser, mae’r clwb hefyd yn ystyried disgyblu’r prif hyfforddwr, Steve Rhodes am fater arall, ond dydyn nhw ddim wedi datgelu’r manylion.