Mae cyn-nyrs seiciatrig wedi’i garcharu am ddwy flynedd am ladd a choginio ei gi, a’i fwydo i gi arall.

Bydd Dominic O’Connor, 28, yn treulio dwy flynedd ar drwydded yn y gymuned ac mae wedi’i wahardd rhag cadw anifeliliaid am oes.

Fe ddefnyddiodd e dennyn i dagu’r ci cyn ei fwydo i’r ci arall yng Ngogledd Iwerddon fis Rhagfyr y llynedd.

Roedd e wedi prynu’r ci oddi ar wefan Gumtree ac fe geisiodd ddwywaith i’w ladd, meddai’r barnwr.

Ar ôl ei ladd, fe gafodd y gweddillion oedd heb eu bwyta eu taflu i fag plastig a’i waredu mewn harbwr.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Downpatrick fod y weithred yn “farbaraidd”, ond nad oedd yn peri perygl i bobol.

Y ddedfryd ar gyfer y drosedd yw pum mlynedd, neu ddwy flynedd a hanner dan glo a’r gweddill ar drwydded.

Dywedodd y barnwr fod y ddedfryd yn adlewyrchu “lefel y creulondeb”, ac nad oedd ei gyfreithwyr wedi cyflwyno digon o dystiolaeth fod ganddo salwch meddwl i ddefnyddio hynny fel amddiffyniad.

Wrth iddo gael ei dywys o’r llys, daeth sgrech o’r oriel gyhoeddus ar iddo “losgi mewn uffern” a’i fod yn “ymgorffori cythraul drwg”.