Fe fyddai 60% o bobol gwledydd Prydain yn ystyried rhannu tŷ â sawl cenhedlaeth o’u teulu, yn ôl canlyniadau arolwg.

Yn ogystal â hynny, byddai 15% yn “dwlu” byw â’u teuluoedd, tra bod 60% yn agored i’r syniad o brynu tŷ ar y cyd ag aelodau o’u teulu.

 phrisiau tai yn cynyddu a’r nifer o henoed yng ngwledydd Prydain yn tyfu, mae’n bosib mai tai ‘aml-genhedlaeth’ fydd y norm yn y dyfodol.

Ond, yn ôl yr arolwg, mae preifatrwydd yn dal i fod yn brif flaenoriaeth i bobol gwledydd Prydain, a fyddai rhai dim ond yn ystyried y posibiliad pe bai’r teulu â gofodau byw ar wahân.

Daw’r ystadegau o arolwg o 2,000 person rhwng 18 a 65, gan werthwyr tai Tepilo.com.