Mae Tywysog Harry wedi cyhoeddi y bydd yn priodi’r actores Americanaidd, Meghan Markle.

Bydd y briodas frenhinol yn cael ei chynnal adeg gwanwyn flwyddyn nesa, ac mi fydd datganiad swyddogol yn cael ei ddarlledu ar y teledu prynhawn ddydd Llun.

Mae’r cwpwl wedi bod yn mynd allan â’i gilydd ers haf 2016, ac mi wnaethon nhw ddyweddïo yn gynharach yn y mis.

Bydd y cwpwl yn byw yng nghartref Harry yn Kensington Palace, ac mi fydd Meghan Markle yn derbyn teitl bonheddig yn sgil y briodas.