Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi ei chynlluniau i “drawsnewid” diwydiannau yn y Deyrnas Unedig erbyn 2030 drwy fuddsoddi £725 miliwn.

Mae’r arian yn cynnwys £170 miliwn tuag at adeiladu tai mwy fforddiadwy ac sy’n defnyddio llai o ynni, £210 miliwn tuag at wella’r diagnosis cynnar ar gyfer afiechydon a datblygu mathau newydd o feddyginiaethau ar gyfer cleifion.

Mae’r mesurau yn rhan o’r Strategaeth Ddiwydiannol, sy’n lansio gweledigaeth hirdymor y Llywodraeth i geisio mynd i’r afael a chynhyrchiant gwael y DU, rhoi hwb i gyflogau a chyflwyno newidiadau technolegol.

Fe fydd y £725m yn mynd i gronfa dros y tair blynedd nesaf, ac mae’n ychwanegol i’r £1 biliwn a gyhoeddwyd eisoes tuag at brosiectau.

I nodi Papur Gwyn y Strategaeth Ddiwydiannol, mae’r cwmni gwyddorau bywyd MSD wedi cyhoeddi y bydd yn agor canolfan newydd yn y DU er mwyn ymchwilio i driniaethau newydd i gleifion ar gyfer y dyfodol. Fe fydd tua 150 o swyddi ymchwil yn cael eu creu.

Yn ôl y Prif Weinidog Theresa May fe fydd y Strategaeth Ddiwydiannol “yn ffurfio economi gryfach a thecach am ddegawdau i ddod.”