Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson, yn wynebu cwestiynau gan Aelodau Seneddol am y tro cyntaf heddiw ynglŷn â’r bygythiad i’r lluoedd arfog.

Mae aelod arall o’r Cabinet, Liam Fox, wedi awgrymu  y gallai cyfaddawd gael ei gytuno er mwyn lleddfu’r tensiynau o fewn y blaid Geidwadol yn sgil yr adolygiad o’r lluoedd arfog.

Daeth ymyrraeth gan yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol ar ôl i aelodau o’r meinciau cefn fygwth gwrthryfel dros y toriadau ac fe awgrymodd y gweinidog amddiffyn, Tobias Ellwood, y byddai’n ymddiswyddo petai cynlluniau i gwtogi ar nifer y milwyr gael eu gweithredu.

Mae cynlluniau i gwtogi’r nifer gan 12,000 i 70,000.