Mae arweinydd newydd Llafur yr Alban, Richard Leonard wedi cyfarfod ag arweinydd y blaid Brydeinig, Jeremy Corbyn am y tro cyntaf.

Mae’r ddau wedi teithio i Glasgow ar gyfer cyfarfod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid.

Cafodd Richard Leonard ei ethol yn olynydd i Kezia Dugdale yr wythnos ddiwethaf, gan drechu Anas Sarwar yn y ras am yr arweinyddiaeth.

Dywedodd Jeremy Corbyn ei fod yn “falch iawn” o gael Richard Leonard yn y swydd.

Ymgyrchu

Ar drothwy’r cyfarfod, roedd Llafur yr Alban wedi lansio wythnos o ymgyrchu ar draws y wlad.

Fe fu’r ddau arweinydd yn cwrdd â phobol ddigartref ar strydoedd y ddinas ddoe cyn cwrdd â gwirfoddolwyr sy’n eu helpu.

Maen nhw’n rhoi bwyd, sachau cysgu a dillad i bobol ddigartref y ddinas.