Mae Comisiynydd Ewropeaidd Iwerddon wedi galw ar i Brif Weinidog Prydain, Theresa May newid ei chynlluniau o safbwynt ffiniau Iwerddon fel rhan o drafodaethau Brexit.

Dywedodd Phil Hogan y gellid datrys y ffrae tros ffiniau Iwerddon drwy roi’r hawl i Ogledd Iwerddon aros yn yr undeb dollau a’r farchnad sengl.

Daw ei sylwadau ar ôl i blaid y DUP rybuddio na fyddan nhw’n rhoi rhwydd hynt i Lywodraeth Prydain osod ffiniau rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill gwledydd Prydain.

Mae gan Theresa May tan Ragfyr 4 i ddatrys y sefyllfa hon, ynghyd â’r cytundeb ymadael a hawliau dinasyddion er mwyn symud ymlaen i gam nesa’r trafodaethau gyda Brwsel.

‘Syfrdan’

Dywedodd Phil Hogan mai’r “ffaith syml” yw “pe bai’r DU neu Ogledd Iwerddon yn aros yn rhan o undeb dollau’r Undeb Ewropeaidd, neu’n well fyth y farchnad sengl, yna ni fyddai problem ffiniau”.

Dywedodd wrth bapur newydd yr Observer: “Dw i’n parhau’n syfrdan o ran ffydd dall rhai yn Llundain o safbwynt dyfodol damcaniaethol cytundebau masnach rydd.”

Ond mae Theresa May yn mynnu o hyd na fydd Prydain yn aros yn y farchnad sengl na’r undeb dollau.

Ac fe fydd y DUP yn gwrthwynebu unrhyw drefniant i roi statws arbennig i Ogledd Iwerddon.

 

Dywedodd yr arweinydd, Arlene Foster wrth gynhadledd y blaid: “Fyddwn ni ddim yn cefnogi unrhyw drefniant sy’n creu rhwystrau i fasnachu rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig nac unrhyw awgrym y bydd rhaid i Ogledd Iwerddon, yn wahanol i weddill y DU, adlewyrchu rheoliadau Ewropeaidd.”

Rheolau Ewropeaidd

Yn y cyfamser, fe allai Prydain orfod dilyn rheolau Ewropeaidd newydd am y ddwy flynedd y bydd yn cymryd i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Byddai derbyn y rheolau newydd yn rhan o unrhyw gytundeb dros dro, meddai dogfennau sydd wedi’u cyhoeddi’n answyddogol.

Mae Llywodraeth Prydain yn gwthio am gyfnod ymgyfarwyddo, ond fe allen nhw wynebu gwrthdystiad gan Aelodau Seneddol oedd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd o ganlyniad i’r wybodaeth newydd.

 

Mae’r ddogfen gan Michel Barnier yn amlinellu cytundeb a fyddai’n cael ei orfodi ar wledydd Prydain yn y cyfnod rhwng nawr a Mawrth 30, 2019 sef y dyddiad terfynol ar gyfer gadael.