Cafodd pump o bobol, gan gynnwys tri o blant, eu lladd pan darodd car Renault Clio oedd wedi cael ei ddwyn yn erbyn coeden yn Leeds neithiwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Meanwood y ddinas am 9.54pm.

Fe fu farw dyn 28 oed, dyn 24 oed, bachgen 12 oed a dau fachgen 15 oed yn y digwyddiad, yn ôl heddlu Gorllewin Swydd Efrog.

Mae dau lanc 15 oed yn y ddalfa, ac mae ymchwiliad ar y gweill.