Rhaid i Ogledd Iwerddon gael ei thrin yr un fath â gweddill y Deyrnas Unedig beth bynnag fydd y trefniadau ar ôl Brexit, yn ôl plaid unoliaethol y DUP.

Oherwydd pryderon am ail-greu’r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth pe bai’r Deyrnas Unedig yn gadael y Farchnad Sengl a’r undeb tollau, mae rhai wedi awgrymu eithrio Gogledd Iwerddon o unrhyw drefniant o’r fath.

O ganlyniad, fe fyddai’r ffin galed yn cael ei gosod wedyn rhwng Prydain ac ynys Iwerddon yn ei chyfanrwydd.

Byddai hynny’n gwbl annerbyniol, yn ôl Arlene Foster, arweinydd y DUP, plaid y mae Theresa May yn ddibynnol arni i gynnal ei llywodraeth leiafrifol mewn grym.

“Fyddwn ni ddim yn cefnogi unrhyw drefniadau sy’n creu rhwystrau i fasnach rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig,” meddai Arlene Foster wrth annerch cynhadledd ei phlaid heddiw.

“Rwyf yn unoliaethwraig o argyhoeddiad ac yn ddiedifar o hynny, a beth bynnag fo’r propaganda, Prydeinig yw Gogledd Iwerddon a bydd yn parhau’n Brydeinig.”