Mae gwraig o Brydain sydd mewn carchar yn Iran wedi siarad o’i chell yn diolch i’r rheini sy’n ymgyrchu dros ei rhyddhau.

Llwyddodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe i annerch rali a gorymdaith o’i chefnogwyr gerllaw ei chartref yng ngogledd Llundain trwy ffôn ac uchelseinydd.

Mae hi mewn carchar yn Tehran ers mis Ebrill 2016, pan gafodd ei harestio ym maes awyr y ddinas.

“Dw i mor ddiolchgar am gefnogaeth a chariad pawb,” meddai Nazanin Zaghari-Ratcliffe y prynhawn yma. “Y cyfan sydd ar fy medwl yw bod yn ôl adref ac yn ôl adref gyda’m teulu.”

Llanast Boris

Er mai ar wyliau’r oedd hi yn Iran, mae’r ysgrifennydd tramor Boris Johnson wedi gwanhau ei sefyllfa yn ddiweddar wrth honni yn y senedd ei bod yno i hyfforddi newyddiadurwyr.

Galwodd un o’i chefnogwyr yn y rali, yr actores Emma Thompson, ar i Boris Johnson fynd i ran i bwyso am ei rhyddhau.

“Os alla i godi o’r gwely gyda niwmonia i gefnogi aelod o’n cymuned sydd wedi cael ei cham-drin mor ofnadwy, yna fe all ein Hysgrifennydd Tramor fynd ar awyren a mynd i Iran i ddelio â’r broblem y mae wedi ei gwaethygu gymaint,” meddai.

Mae deiseb ar-lein sy’n galw ar iddi gael ei dychwelyd i Brydain wedi casglu dros 1.3 miliwn o enwau.