Nid oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng gorlenwi carchardai a’r cyfraddau hunanladdiad ynddyn nhw, yn ôl canlyniadau astudiaeth o 4,000 o farwolaethau.

Mae’r ymchwil, sy’n cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn meddygol Lancet Psychiatry, yn awgrymu y gall ffactorau fel darpariaeth o ofal iechyd meddwl a gweithgareddau dyddiol fod yn fwy arwyddocaol.

Ar ôl edrych ar 3,906 o hunanladdiadau mewn 20 o wledydd Ewrop, gan gynnwys Cymru a Lloegr, ac yn America, Canada, Awstralia a Seland Newydd, daeth i’r amlwg fod y marwolaethau uchaf yn y gwledydd â’r cyfraddau isaf o garcharu.

Daeth yr ymchwil i’r casgliad nad oes “unrhyw esboniadau ecolegol syml am hunanladdiad mewn carchardai” ac mae’n galw am strategaethau cenedlaethol i fynd i’r afael â’r broblem.

Yng Nghymru a Lloegr, mae cyfraddau hunanladdiad bum neu chwe gwaith yn uwch na’r hyn yw yn y boblogaeth yn gyffredinol.