Roedd anhrefn ac argyfwng yng nghanol Llundain brynhawn ddoe wrth i’r heddlu gael eu galw i orsaf danddaearol Oxford Circus gydag adroddiadau fod ergydion wedi cael eu tanio.

Cafodd yr orsaf, un o’r rhai prysurau yn Llundain, a rhan o Oxford Street eu gwagio ar ôl y digwyddiad am 4.37pm.

Aed â naw o bob i’r ysbyty ar ôl i lawer gael eu hanafu yn y rhuthr a’r panic.

Mae’r heddlu bellach yn credu mai dau ddyn yn ymladd ar y platfform a wnaeth arwain at yr argyfwng.

Ar ôl ymchwil manwl o’r ardal o gwmpas, maen nhw wedi cadarnhau na chafwyd unrhyw dystiolaeth fod ergydion wedi eu tanio.