Mae arweinydd y Blaid Lafur yn Yr Alban wedi’i “siomi” gyda phenderfyniad ei ragflaenydd i fod yn rhan o’r gyfres I’m A Celebrity … Get Me Out Of Here.

 Yn ôl Richard Leonard, nid yw ymddangosiad Kezia Dugdale ar y rhaglen realiti yn “ffordd dda o gyfleu’r neges o sosialaeth ar y teledu”.

Ond mae Kezia Dugdale yn dadlau fod cymryd rhan yn un o’r rhaglenni teledu mwyaf poblogaidd ym Mhrydain yn gyfle i dynnu sylw’r 12 miliwn sy’n gwylio at bolisïau’r Blaid Lafur.

“Rwy’n sylweddoli ei fod yn rhaglen boblogaidd sy’n cael ei gwylio gan filoedd,” meddai Richard Leonard ar raglen Good Morning Britain, “ond dydw i ddim yn siŵr a yw’n ffordd dda o gyfleu neges sosialaeth ar deledu.”

Yn y jyngl

Cafodd Richard Leonard ei ethol yn arweinydd i Blaid Lafur yr Alban ar ôl i Kezia Dugdale gamu o’r neilltu ym mis Awst eleni – ond mae hi yn parhau yn Aelod o Senedd yr Alban ar gyfer rhanbarth Lothian.

Yn ôl yr arweinydd, mae’n debyg fod Kezia Dugdale wedi gadael ei gwaith “heb ganiatâd”.

Ond mae’r Blaid Lafur yn dweud na fydd hi’n cael ei gwahardd am hynny ac y bydd disgwyl iddi wynebu panel o benaethiaid ar ôl dychwelyd o’r jyngl.

“Mae Kez yn gobeithio y bydd ei gwerthoedd Llafur yn disgleirio tra bydd hi yn y jyngl, ac y bydd yn gyfle i ddangos fod gwleidyddion yn fodau dynol,” meddai llefarydd ar ei rhan.