Roedd tua un o bob 10 merch rhwng 16 ac 19 oed wedi dioddef trais yn y cartref y llynedd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf ar gyfer gwledydd Prydain.

Mae data o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 10.5% o ferched rhwng 16 ac 19 oed wedi hysbysu’r heddlu eu bod wedi cael eu cam-drin yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2017, o gymharu â 6.9% o ddynion.

Roedd y ffigurau yn parhau’n uchel i fenywod rhwng 20 a 24 oed, gyda 9.6% yn codi achosion o gam-drin, a 5.5% o ddynion yr un oedran yn dweud eu bod wedi cael eu cam-drin.

Cofnododd yr heddlu 1.1 miliwn o ddigwyddiadau yn ymwneud â thrais domestig y llynedd, gydag amcangyfrif bod 1.9 miliwn o bobol rhwng 16 a 59 wedi dioddef.

O’r rhain, roedd 1.2 miliwn [63%] yn fenywod a 713,000 [37%] yn ddynion, ac roedd 70% o’r 454 o farwolaethau a fu’r llynedd o ganlyniad i drais domestig yn fenywod.