Mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi ei fod am neilltuo £3bn dros y ddwy flynedd nesaf i ddelio â Brexit.

Mi fydd yr arian yn cael ei wario ar “baratoadau Brexit” ac mae’n dweud ei fod yn barod i neilltuo mwy at yr achos pe bai angen.

Mae trafodaethau Brexit wedi cyrraedd “cyfnod tyngedfennol” meddai, gan ddweud y byddai sicrhau cynnydd yn y trafodaethau masnach yn “hwb mawr”.

“Rydym eisoes wedi buddsoddi bron £700m ym mharatoadau Brexit a heddiw rwy’n gosod £3bn arall i’r naill ochr dros y ddwy flynedd nesaf,” meddai.

Mae hefyd wedi cyhoeddi y bydd gyrwyr ceir diesel nad sy’n cyfateb i’r safonau amgylcheddol diweddaraf yn talu trethi uwch mewn ymgais i “wella cyflwr yr aer”.