Mae Ysgrifennydd Addysg yr wrthblaid yn San Steffan wedi dod yn fam-gu, a hithau’n ddim ond 37 oed.

Angela Rayner ydi Aelod Seneddol Ashton-under-Lyne, ac fe gyhoeddodd enedigaeth ei wyr cyntaf mewn neges Twitter ben bore heddiw.

Roedd Angela Rayner yn fam i’w mab cyntaf, Ryan, yn 16 oed, ac mae wedi dweud fod bod yn fam yn ei harddegau wedi ei “hachub” hi.

“Toc cyn 6yb heddiw (dydd Mercher), fe ddes i’n fam-gu,” meddai’r gwleidydd. “Diolch i staff arbennig yn NHS Tameside.”

Yn gynharach eleni, fe ddefnyddiodd ei phrofiadau yn fam ifanc ar stad gyngor i ddweud mai genedigaeth ei mab wnaeth ei hachub hi rhag “y math o ddynes y gallwn i fod wedi bod”.

“Roedd gen i ddyn bach i edrych ar ei ol,” meddai wedyn. “O’n i eisiau profi y gallwn i fod yn fam dda ac yn rhywun a oedd yn haeddu cael ei charu. Dyna wnaeth beichiogrwydd i mi.”