Mae’r cricedwr Shiv Thakor wedi cael ei ddiswyddo gan Glwb Criced Swydd Derby ar ôl i lys ei gael yn euog o ddinoethi ei hun yn gyhoeddus ar ddau achlysur.

afwyd y chwaraewr amryddawn 24 oed yn euog yn Llys Ynadon Derby yr wythnos nesaf, ac fe fydd e’n cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.

Mae’n wynebu hyd at ddwy flynedd dan glo.

Fe fu gyda’r clwb ers rhai blynyddoedd, gan chwarae yn ei gêm gyntaf yn 2011.

Yr achos

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth cyn ei ddedfrydu.

Mewn datganiad, dywedodd Clwb Criced Swydd Derby eu bod nhw’n disgwyl “y safonau ymddygiad uchaf… ac yn gwrthwynebu aflonyddu rhywiol o unrhyw fath”.

Fe ddaeth i’r amlwg ei fod e wedi dangos ei hun i ddynes drwy ei drowsus.

Cafodd ei arestio ym mis Gorffennaf ar amheuaeth o droseddau ar Fehefin 12 a 19.

Ond wrth gael ei holi gan yr heddlu, dywedodd ei fod e eisoes wedi cael ei “fodloni’n rhywiol” gan ei gariad 16 oed cyn y digwyddiad, ac felly ei fod yn gwadu’r troseddau.

Ychwanegodd fod ganddo fe arfer o “ail-drefnu” ei hun “yn y blaen a’r cefn”.

Clywodd y llys ei fod yn cael ei adnabod yn y byd criced wrth y ffugenw ‘Shifty Shiv’.