Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, dan bwysau i gefnu ar drafodaethau Brexit os na fyddan nhw’n troi at faterion masnach ym mis Ragfyr.

Mae  Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd a chyn-Ysgrifennydd Cymru, David Jones, yn arwain y galw wrth iddo annerch cynhadledd yn Llundain.

Bydd yn dadlau y dylai Theresa May gamu’n ôl o’r trafodaethau i brofi nad yw hi am gael ei “chamarwain” gan Frwsel.

“Yn ystod cynhadledd Rhagfyr, mi ddylai’r Prif Weinidog fynnu bod yr Undeb Ewropeaidd yn cytuno i ddechrau trafodaethau masnach heb oedi,” meddai.

“Mae’r Deyrnas Unedig wedi bod yn amyneddgar dros ben ers tanio Erthygl 50. Mae’n hen bryd i’r Undeb Ewropeaidd rhoi diwedd ar eu celwyddau.”

“Trychinebus”

Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Stephen Doughty, sydd yn gefnogwr brwd o’r ymgyrch yn erbyn Brexit caled, wedi rhybuddio am oblygiadau “trychinebus” gall ddod o gefnu ar y trafodaethau.

“Neges o anobaith yw sylwadau David Jones, ac mi fyddai’n drychinebus i’r wlad yma os fyddai’r Prif Weinidog yn dilyn ei gyngor,” meddai.

“Mae’r Llywodraeth ac eithafwyr Brexit ond yn medru beio eu hunain am yr anghydfod tros drafodaethau Brexit. Byddai cefnu arnyn nhw a gadael yr Undeb Ewropeaidd heb ddêl yn drychinebus.”