Trwy adael yr Undeb Ewropeaidd mi fydd y Deyrnas Unedig yn colli’r holl fanteision a ddaw o fod yn aelod o’r farchnad sengl, yn ôl prif drafodwr Brexit Ewrop.

Mae Michel Barnier wedi rhybuddio na fydd modd taro cyfaddawd dros y mater, gan ddweud nad oes modd i Brydain ymrwymo i rai elfennau ohono yn unig.

“Rydym wedi talu sylw i benderfyniad y Deyrnas Unedig i ddod â symudiad rhydd o bobol i ben,” meddai wrth annerch cynhadledd y Canolfan Ddiwygio Ewropeaidd ym Mrwsel.

“Yn amlwg, golyga hyn y bydd y Deyrnas Unedig yn colli manteision y farchnad sengl. Realiti cyfreithiol yw hyn.”

Cost Brexit

Bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, yn cyfarfod prynhawn ddydd Llun i drafod setliad ariannol Brexit â’i gweinidogion.

Wrth annerch y gynhadledd dywedodd Michel Barnier y byddai’n rhaid i’r ddwy ochr ddod i gytundeb ar y mater cyn bydd modd dechrau trafodaethau masnach.