Roedd hwyliwr o Fryste a gafodd ei ladd wrth deithio’r byd yn cymryd rhan yn ras enwog y Clipper.

Cwympodd Simon Speirs, 60, i mewn i’r môr wrth gwblhau’r cymal rhwng De Affrica ac Awstralia ar fwrdd y CV30.

Roedd y cyn-gyfreithiwr yn chweched yn y ras ar y pryd, ac roedd ganddo fe fwy na 40 mlynedd o brofiad yn hwylio.

Mae lle i gredu ei fod e’n trwysio’r hwyliau pan gwympodd yn ystod gwyntoedd cryfion, ac roedd e’n gwisgo cyfarpar diogelwch.

Ceisiodd ei dîm cynorthwyol ei ddychwelyd i’r lan, ond fe fu farw.

Fe fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal, meddai datganiad, oedd hefyd wedi cadarnhau ei fod e wedi cael ei gladdu yn y môr yn ystod gwasanaeth Cristnogol yn dilyn ei farwolaeth.