Fe fydd cynlluniau i godi 300,000 o dai bob blwyddyn yn cael eu cynnwys yn Natganiad Hydref y Canghellor Philip Hammond ddydd Mercher.
Dywedodd fod datrys y farchnad dai yn “rhan hanfodol” o ymdrechion i osgoi lefelau uchel o dlodi ymhlith y to iau.
Ond mae e wedi wfftio awgrym Ysgrifennydd Cymunedau San Steffan, Sajid Javid y dylid benthyg biliynau o bunnoedd er mwyn ariannu rhaglen dai newydd, gan rybuddio y byddai hynny’n “gwaethygu’r broblem” wrth orfodi cynnydd mewn prisiau.
‘Her’
Dywedodd Philip Hammond wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Yr her yma yw rhesymoldeb a dw i’n credu bod arbenigwyr ar y cyfan yn cytuno, er mwyn dechrau mynd i’r afael â’r broblem o resymoldeb, fod rhaid bod yn gynaliadwy wrth gyflwyno oddeutu 300,000 o gartrefi bob blwyddyn ar gyfartaledd ar draws y cylch tai.
“Mae’n gam mawr i fyny o’r lle’r ydyn ni nawr.”
Prynu am y tro cyntaf
Dywedodd Philip Hammond y byddai’r Gyllideb yn cynnwys cynlluniau i helpu pobol sy’n prynu tai am y tro cyntaf.
Ond dyw e ddim wedi cadarnhau a fydd e’n torri’r dreth stamp, er ei fod yn “cydnabod yr her i bobol ifanc sy’n prynu am y tro cyntaf”.
Cafodd 217,000 o dai eu hadeiladu yng ngwledydd Prydain y llynedd.
Ond fe ddywedodd Philip Hammond y byddai’n gwneud “beth bynnag mae’n ei gymryd” i adeiladu tai.
Yn ôl y Sunday Times, fe fydd e’n dod o hyd i £5 biliwn ar gyfer cynlluniau tai.