Mae’r heddlu sy’n chwilio am Gaia Pope, 19 o Swanage yn Swydd Dorset, wedi dod o hyd i gorff.

Cafwyd hyd i’r corff ar dir i’r de o’r dref brynhawn ddoe, ac mae’n trin y farwolaeth fel un nad oes esboniad ar ei chyfer.

Daeth yr heddlu o hyd i’r corff ar ôl darganfod dillad Gaia Pope ddydd Iau.

‘Un o dri’

Dywedodd ei chwaer Clara wrth ITV: “Dw i jyst eisiau dweud wrth bawb fod pob eiliad o’ch gwaith caled wedi bod yn hollol werthchweil.

 

“Hi yw – fydda i byth yn dweud ‘hi oedd’ – y goleuni yn fy mywyd. Mor hardd, mor emosiynol ddoeth a galluog, a mor angerddol ac artistig a chreadigol a deallus.

“Bydda i bob amser yn un o dri. Wastad yn un o dri. A dw i jyst eisiau diolch i bawb. Pawb. Am bob cwtsh, pob neges – un o dri, dyna’r cyfan sydd gen i i’w ddweud.”

Diolchodd ei chyfnither Marienna Pope-Weidemann i bawb “am bopeth” a’r “ysbryd gymunedol” a fu wrth chwilio amdani.

Y chwilio

Fe fu cannoedd o bobol allan yn chwilio am Gaia Pope ers ei diflaniad, a’i thad Richard Sutherland yn eu plith.

Roedd y chwilio wedi cael ei drefnu drwy Facebook, ac fe fuon nhw mewn parc gwledig, y traeth a’r dref yn chwilio amdani.

Dywedodd ei thad ei bod hi’n dioddef o epilepsi ac y gallai’r salwch fod wedi chwarae rhan yn ei diflaniad, a’i bod hi mewn perygl o farwolaeth sydyn.

Mae disgwyl i ragor o brofion cael eu cynnal ar y corff er mwyn darganfod sut y bu farw.

Roedd yr heddlu wedi arestio dynes 71 oed, dyn 19 oed a dyn 49 oed mewn perthynas â’i diflaniad, ond maen nhw i gyd wedi cael eu rhyddhau wrth i’r ymchwiliad barhau.