Mae’r Undeb Ewropeaidd yn bygwth dal yr ad-daliad treth olaf o £5 biliwn yn ôl fel rhan o’r setliad wrth i Brydain baratoi ar gyfer Brexit, yn ôl adroddiadau.

Mae gan Brydain tan ddechrau mis nesaf i symud y setliad ariannol yn ei flaen cyn cael dechrau trafod cytundebau masnachu.

 

Ond yn ôl y Telegraph, dyw Brwsel ddim wedi rhoi manylion y taliad olaf ar gyfer 2018, fydd yn cael ei gwblhau wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth, 2019.

Dyw Llywodraeth Prydain na’r Undeb Ewropeaidd ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.

 

Taliadau

Ond mae Downing Street eisoes wedi wfftio’r awgrym y gallai Prif Weinidog Prydain, Theresa May fod yn barod i gynnig hyd at £20 biliwn yn rhagor fel rhan o’r setliad – gan ddod â’r cyfanswm i ryw £38 biliwn.

Ond mae’r swm ymhell o’r £53 biliwn y mae Brwsel yn teimlo sy’n deg.

Yn ôl Llywydd Comisiwn Ewrop, Donald Tusk, maen nhw’n barod ar gyfer y cam nesaf yn y trafodaethau ym Mrwsel ar Ragfyr 14-15.

Ond fe ddywedodd fod angen “llawer mwy o gynnydd” o safbwynt y setliad ariannol a’r ddadl tros ffiniau Iwerddon cyn gallu symud ymlaen, a bod angen “cynnydd i ddigwydd ddechrau mis Rhagfyr fan bellaf”.

Mae Theresa May wedi pwysleisio unwaith eto fod gan Brydain “berthynas ddofn ac arbennig” ag aelodau eraill yr Undeb Ewropeaidd.

 

Ond bydd y berthynas honno’n cael ei phrofi pan fydd trafodaethau masnach yn dechrau, wrth i rai gwledydd – gan gynnwys Iwerddon, Sweden, Ffrainc a’r Eidal – roi pwysau ar Theresa May i amlinellu faint o arian mae ei llywodraeth yn fodlon ei dalu am Brexit.

Mae arweinydd Iwerddon, Leo Varadkar eisoes wedi awgrymu ei fod yn barod i ddal yn ôl ar y trafodaethau tan y flwyddyn nesaf oni bai bod Prydain yn cyfaddawdu ymhellach ynghylch ffiniau’r wlad.

‘Cyfaddawd’

Ond mae Ysgrifennydd Brexit, David Davis wedi dweud ei fod yntau am weld cyfaddawd o du Brwsel.

 

“Mewn unrhyw drafodaeth, rydych chi am weld yr ochr arall yn cyfaddawdu,” meddai wrth y BBC. “Rwy am iddyn nhw gyfaddawdu.”

Wrth ymateb i awgrym David Davis mai Prydain sydd wedi gwneud pob cyfaddawd hyd yn hyn, dywedodd Donald Tusk ei fod yn “gwerthfawrogi ei synnwyr digrifwch Seisnig”.

 

Y tu hwnt i fis Rhagfyr, fe allai diffyg cyfaddawd olygu na fydd y trafodaethau’n datblygu tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl i is-bwyllgor Cabinet Llywodraeth Prydain gyfarfod ddydd Llun.