Mae tad laddodd ei ddau o blant ifanc gyda chadach wedi ei wlychu mewn petrol, wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth.

Roedd Endris Mohammed hefyd wedi ceisio llofruddio ei bartner, Penil Teklehaimanot, drwy dampro gyda pheipen nwy a rhoi’r cartref teuluol ar dân yn Birmingham.

Roedd y gyrrwr tacsi wedi gwadu iddo lofruddio Saros Endris, wyth, a’i chwaer Leanor, chwech, gan honni nad oedd yn ei iawn bwyll a’i fod yn dioddef iselder.

Wedi pythefnos yn Llys y Goron Birmingham fe’i cafwyd yn euog o lofruddio a cheisio llofruddio gan y rheithgor wedi llai na hanner awr o drafod.

Dywedwyd wrtho ei fod yn ymddangos yn normal yn y cyfnod cyn troseddu.

Bydd Endris Mohammed yn cael ei ddedfrydu ddydd Llun.