Fe fydd Theresa May yn clywed heddiw nad oes sicrwydd y bydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn cynnal trafodaethau am gytundeb masnach Brexit fis nesaf wrth i Frwsel bwyso’r Prif Weinidog i ddatgelu rhagor o wybodaeth ynglŷn â rhai o’r prif faterion.

Mae hynny’n cynnwys y bil y bydd yn rhaid i’r Deyrnas Unedig ei dalu i’r UE er mwyn gadael Brwsel.

Fe fydd y Prif Weinidog yn cynnal trafodaethau gyda llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, a Phrif Weinidog Iwerddon, Leo Varadkar, wrth iddi ddwysau ei hymdrechion i symud y broses Brexit ymlaen.

Mae disgwyl i Theresa May gwrdd â Donald Tusk a Leo Varadkar mewn uwch-gynhadledd yn Gothenburg, Sweden heddiw (dydd Gwener).

Yn ôl ffynonellau yn yr UE fe fydd Donald Tusk yn dweud wrth Theresa May na allai gymryd yn ganiataol y bydd arweinwyr yn cytuno i symud ymlaen at drafodaethau ffurfiol am gytundeb masnach.