Mae tri dyn a orfododd ferch ysgol 14 oed i buteinio ei chorff, wedi’u cael yn euog o ecsploetio plentyn yn rhywiol.

Mae Heddlu’r West Midlands yn dweud i Jake Cairns, Brandon Sharples a Jack McInally roi cyffuriau i’r ferch, a’i chadw mewn adeilad yn Coventry am bump diwrnod.

Roedd y cyhuddiadau hefyd yn dweud fod Jake Cairns wedi tynnu lluniau anweddus o’r ferch a’u cyhoeddi ar wefan i oedolion, cyn i’r ferch gael ei gorfodi i gael cyfathrach rhywiol â thua 20 o “gleientau” yn ystod haf 2015.

Fe gafwyd Brandon Sharples, 20, Jake Cairns, 21, a Jack McInally, 21, yn euog yn Llys y Goron Warwick.