Mae dyn o Iwerddon wedi’i ddedfrydu i 18 mis yng ngharchar yn yr Unol Daleithiau, wedi iddo smyglo cwpan wedi’i gerfio o gorn rinoseros.

Fe gafodd Michael Hegarty, 40, ei ddedfrydu mewn llys yn Miami, a hynny wedi iddo bledio’n euog yn gynharach eleni i smyglo’r cwpan.

Roedd wedi’i arestio yng ngwlad Belg ym mis Ionawr, a’i estraddodi i America ym mis Gorffennaf.

Mae dogfennau’r llys yn dangos fod Michael Hegarty ac eraill wedi prynu’r cwpan am tua $60,000 mewn arwerthiant yng Ngogledd Carolina.

Fe aeth y grwp â’r cwpan, wedyn, i Fflorida a ffugio dogfennau er mwyn smygo’r cwpan o’r Unol Daleithiau i Ewrop.