Mae’n bosib y bydd y Deyrnas Unedig yn wynebu problemau trafnidiaeth helaeth ar ddiwrnod cyntaf Brexit, os na fydd y Llywodraeth yn paratoi o flaen llaw.

Dyna yw rhybudd y Pwyllgor Materion Cartref, mewn adroddiad sydd yn beirniadu’r diffyg cynlluniau ar gyfer trefn tollau tramor newydd.

Yn yr adroddiad mae’r pwyllgor yn rhybuddio bydd “ciwiau milltir o hyd”  wrth i gerbydau gael trafferth yn croesi’r ffiniau i’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi beirniadu’r cynlluniau ar gyfer cynyddu staff ar y ffiniau gan rybuddio y gallai mewnfudo anghyfreithlon gynyddu.

Diwrnod cyntaf Brexit

“Fel y mae hi, mae’r Llywodraeth dan berygl o ddathlu eu diwrnod cyntaf o Brexit â’r olygfa o giwiau milltir o hyd yng Nghaint a thagfeydd ar ffyrdd Gogledd Iwerddon,” meddai’r Aelod Seneddol Yvette Cooper, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Mi fyddai hyn yn niweidiol dros ben i economi’r Deyrnas Unedig, ac mi fyddai’n annerbyniol i’r wlad. Mae’n hanfodol bod gennym gynllun wrth gefn.”