Fe gafodd 70 o bobol eu lladd yn y tân yn nhwr fflatiau Grenfell yn Llundain fis Mehefin, ynghyd â babi marwanedig.

Mae’r ffigwr swyddogol wedi’i gyhoeddi gan Heddlu Llundain heddiw, bum mis wedi’r digwyddiad yn ardal Kensington a Chelsea.

Yn syth wedi’r tân, fe gafodd 400 o bobol eu henwi ar goll. Fe ddihangodd 223 o bobol o’r fflamau, yn ol lluniau teledu cylch-cyfyng yr heddlu, ac roedd rhai eraill ddim gartref ar noson Mehefin 14.

Bellach, mae Scotland Yard yn dweud eu bod nhw’n fodlon bod y “chwilio diflino” a’r “ymdrech fanwl” i ganfod cyrff a’u hadnabod, drosodd.

Yn ol llefarydd, “mae timau arbenigol sydd wedi bod yn gweithio y tu mewn i’r bloc fflatiau ac yn y marwdy, wedi gwthio ffiniau yr hyn oedd yn wyddonol bosib, er mwyn adnabod cyrff”.