Mae cwmni Greggs wedi cael ei feirniadu am roi rôl selsig mewn preseb fel rhan o hysbyseb ar gyfer calendrau adfent.

Mae’r Gymdeithas Ryddid (TFA) yn galw ar gwsmeriaid i foicotio’r cwmni, gan eu cyhuddo o sarhau Cristnogion mewn modd “na fydden nhw’n meiddio” sarhau pobol o grefyddau eraill.

Maen nhw hefyd wedi galw am gynnal protest gyhoeddus yn erbyn y cwmni, ac wedi galw ar y cwmni i gyfrannu elw o’r calendrau i Fyddin yr Iachawdwriaeth.

Mae’r calendr, sy’n costio £24, ar gael yn rhai o siopau’r cwmni, ac mae taleb y tu ôl i bob ffenest.

Dywedodd llefarydd ar ran Greggs: “Mae’n flin iawn gennym am achosi sarhad. Nid dyma oedd ein bwriad.”

Daw’r ffrae ddiweddaraf wythnos yn unig ar ôl i aelod o staff y cwmni yn Llambed gael ei wahardd o’r gwaith am gymharu’r Gymraeg â chyflwr Tourette.