Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig gam yn nes at basio’r Mesur Ymadael, yn dilyn diwrnod o drafod a herio yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 14).

Y ‘Mesur Ymadael’ yw’r ddeddf fydd yn dod â goruchafiaeth cyfraith yr Undeb Ewropeaidd i ben, ac yn troi cyfreithiau’r undeb yn rhai Prydeinig.

Bydd Aelodau Seneddol yn cael cyfle i graffu ar y ddogfen am wyth diwrnod, a phrynhawn ddoe oedd y cyfle cyntaf i wneud hynny.

Bu’r aelodau yn pleidleisio dros newidiadau arfaethedig i’r mesur, gan gynnwys cynnig aflwyddiannus i sicrhau cydsyniad y llywodraethau datganoledig dros Brexit.

Dyddiad Brexit

Un mater o bwys sydd wedi codi yn sgil y trafodaethau, yw’r ddadl y dylai’r dyddiad pan gaiff Brexit ei thanio gael ei nodi yn y ddeddf.

Mae aelodau meinciau cefn y Torïaid wedi’u corddi gan y cynnig, gyda rhai yn awgrymu y byddan nhw’n gwrthryfela yn hwyrach yn y broses.

Bydd Aelodau Seneddol yn parhau i drafod y mesur ddydd Mercher (Tachwedd 15).