Mae dyn o’r Alban sydd wedi’i arestio yn yr India yn cael ei “arteithio” gan yr heddlu, yn ôl ymgyrchwyr ar ei ran.

Mae Jagtar Singh Johal, 30 oed, o Dumbarton yn cael ei gadw yn y ddalfa yn nhalaith Pwnjab ers dechrau’r mis (Tachwedd 4).

Ac yn ôl Ffederasiwn Siciaid y Deyrnas Unedig, does yr un cyhuddiad ffurfiol wedi’i dwyn ger ei fron eto, ond mae cyfryngau lleol wedi adrodd y gallai fod wedi’i arestio mewn cysylltiad â marwolaeth arweinwyr Hindŵaidd yn Punjab.

‘Arteithio’

Mae’n debyg fod Jagtar Singh Johal wedi dweud wrth ei gyfreithwyr ei fod yn cael ei arteithio gan “dechnegau ymwahanu’r corff a thrydanu rhannau o’r corff.”

Mae ei gyfreithwyr wedi galw am archwiliad meddygol annibynnol o’i anafiadau ac mae ei gyfnod yn y ddalfa wedi’i ymestyn tan ddiwedd yr wythnos.

Mae’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad yn dweud eu bod mewn cyswllt â theulu’r dyn ynghyd ag awdurdodau India.