Roedd graddfa chwyddiant wedi aros yn ei hunfan fis diwethaf, wrth i’r cynnydd mewn prisiau bwyd gael ei gydbwyso gan ostyngiad ym mhris petrol.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) sy’n mesur chwyddiant wedi aros yn 3% ym mis Hydref, sef ei lefel uchaf ers pum mlynedd.

Roedd economegwyr wedi darogan y byddai chwyddiant yn codi i 3.1% a fyddai wedi gorfodi Llywodraethwr Banc Lloegr Mark Carney i ysgrifennu llythyr at y Canghellor Philip Hammond yn esbonio pam fod chwyddiant mor uchel.

Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed o 2%.

Roedd prisiau bwyd wedi codi i’w lefel uchaf ers pedair blynedd, i fyny 4.2% fis diwethaf o’i gymharu â 3.4% ym mis Medi.

Roedd y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), sy’n fesur arall ar gyfer chwyddiant, yn 4% fis diwethaf, o’i gymharu â 3.9% ym mis Medi.