Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi cyhuddo Rwsia o fygwth y drefn ryngwladol trwy  ymyrryd ag etholiadau a lledaenu newyddion ffug.

Wrth annerch gwledd Arglwydd Faer Llundain, gwnaeth Theresa May gyhuddo Rwsia o gynnal “ymgyrch parhaus o ysbïo seibr” gan dynnu sylw at achosion honedig yn Ewrop.

“Mae gen i neges syml i Rwsia,” meddai Theresa May. “Rydym ni’n ymwybodol o’ch gweithredoedd. Ac ni fyddwch yn llwyddo.”

“Oherwydd dydych chi heb lwyr werthfawrogi gwydnwch ein democratiaethau, ac apêl cymdeithasau rhydd ac agored.”

Er ei rhybuddion, pwysleisiodd bod angen gwella’r berthynas â Rwsia er mwyn osgoi ail Ryfel Oer gan nodi: “Er bod angen bod yn wyliadwrus, rhaid hefyd croesawu deialog”.