Bydd Aelodau Seneddol (ASau) yn dechrau craffu’n fanwl ar y Mesur Ymadael heddiw – deddf ganolog i broses Brexit.

Mae cannoedd o newidiadau i’r ddeddf wedi cael eu cynnig, gan gynnwys cais gan y Blaid Lafur bod goruchafiaeth Llys Cyfiawnder Ewrop yn parhau am gyfnod wedi Brexit.

Daw’r craffu ddiwrnod yn unig wedi i’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, gyhoeddi y bydd pleidlais derfynol yn cael ei chynnal dros dderbyn neu wrthod dêl Brexit.

Mae’r gweinidog hefyd wedi nodi y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29 2019, pe bai ASau yn pleidleisio o blaid cytundeb neu beidio.

Plaid Cymru

Ymysg y 350 newid sydd wedi cael eu cynnig i’r ddeddf, mae newid gan Blaid Cymru fyddai’n golygu bod angen cydsyniad y gwledydd datganoledig i’w phasio.

Mae’r blaid eisoes wedi cyfleu pryderon am y mesur gan nodi y gallai gael ei ddefnyddio fel esgus i gipio grym rhag y llywodraethau datganoledig.