Yn ôl gŵr dynes sydd dan glo yn Iran, mae hi wedi “cyfleu dicter” at yr Ysgrifennydd Tramor yn sgil sylwadau am ei hachos.

Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe ei harestio a’i charcharu wrth ymweld ag Iran, yn sgil honiadau ei bod yn cymryd rhan mewn cynllwyn yn erbyn Tehran.

Ac yn awr, mae’n wynebu pum mlynedd ychwanegol dan glo wedi i’r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson, ddweud wrth bwyllgor seneddol ei bod wedi ymweld â’r wlad i “ddysgu newyddiaduraeth”.

Mae gŵr y ddynes, Richard Ratcliffe, wedi datgelu bod ei wr

aig bellach “ar fin torri i lawr” oherwydd pryderon am ei hiechyd.

O ganlyniad i hyn mae Richard Ratcliffe wedi erfyn ar Boris Johnson i’w ganiatáu i ymuno ag ef ar daith ddiplomyddol i Iran ymhen ychydig wythnosau.