Fe fydd arweinwyr busnes o Ewrop yn cwrdd â’r Prif Weinidog Theresa May ddydd Llun i drafod dyfodol masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.

Mae disgwyl i Theresa May geisio ennyn cefnogaeth gan fusnesau Ewropeaidd er mwyn symud y trafodaethau Brexit ymlaen i roi sylw i fasnach.

Fe fydd y Prif Weinidog yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer “partneriaeth economaidd” rhwng y DU a’r UE ar ôl i wledydd Prydain adael yr Undeb.

Bydd yr Ysgrifennydd Brexit David Davis a’r Ysgrifennydd Busnes Greg Clark hefyd yn bresennol yn y digwyddiad yn Downing Street.