Mae’r heddlu wedi beirniadu gweithred “lwfr” y rhai sydd wedi achosi i wasanaeth Sul y Cofio gael ei ohirio ar ôl anfon neges ffug am fom at yr awdurodau.

Cafodd gwrthrych amheus ei ddarganfod y bore ma yn Omagh yn Sir Tyrone, ac mae’r ardal ynghau ar hyn o bryd.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, Graham Dodds fod y weithred yn “ymgais ffiaidd gan lwfrgwn i greu ofn ac i darfu ar ddiwrnod pan fo nifer yn dod ynghyd i dalu teyrnged i’r dynion a menywod dewr a wnaeth yr aberth fwyaf, a rhaid eu condemnio’n llwyr.”