Fe ddaeth i’r amlwg fod cyn-bennaeth Heddlu Llundain, Syr Paul Stephenson yn gwybod fod gan Brif Ysgrifennydd Gwladol San Steffan, Damian Green ddelweddau pornograffig ar ei gyfrifiadur yn 2008.

Dywedodd Syr Paul Stephenson nad oedd y darganfyddiad yn “berthnasol” i’r ymchwiliad yr oedd yr heddlu’n ei gwblhau ar y pryd.

Cafodd yr ymchwiliad yn erbyn Damian Green ei ymestyn yr wythnos ddiwethaf yn dilyn adroddiadau’r Sunday Times am y cyfrifiadur.

Roedden nhw’n honni bod datganiad Bob Quick, cyn-Gomisiynydd Cynorthwyol yr heddlu, yn cyfeirio at y darganfyddiad.

Ond roedd Damian Green yn parhau i fynnu nad oedd sail i’r stori, a’i bod yn ymgais i’w “bardduo”.

Yn ôl Syr Paul Stephenson, “nid lle yr heddlu” oedd plismona’r gweithle, ac dywedodd ei fod yn “difaru” bod y mater wedi dod yn gyhoeddus.

Honiadau

Mae Damian Green wedi bod yn destun ymchwiliad unwaith eto eleni ar ôl i Kate Maltby ddweud wrth y Times ei fod e wedi cyffwrdd â hi mewn modd rhywiol mewn tafarn yn 2015, a’i fod e wedi anfon negeseuon rhywiol ati ar ôl i bapur newydd gyhoeddi lluniau ohoni.

Ond mae e wedi gwadu’r honiadau hynny hefyd.

Roedd Damian Green, Bob Quick a Syr Paul Stephenson wedi cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad yr wythnos ddiwethaf, yn ôl y BBC.

Ymddiswyddodd Bob Quick o’i swydd yn 2009 ar ôl i lun ohono’n cario cudd-wybodaeth ymddangos mewn papur newydd. Roedd modd gweld ysgrifen yn y llun.

Ond mae e wedi gwadu datgelu gwybodaeth i bapurau newydd.