Cafodd dau funud o dawelwch ei gynnal mewn digwyddiadau ledled gwledydd Prydain am 11 y bore yma i nodi dydd y Cadoediad.

Eleni, mae hi’n 99 mlynedd union ers i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben.

Am y tro cyntaf ers mis Awst, roedd trawiadau Big Ben i’w clywed yn Llundain i nodi cychwyn y distawrwydd am 11. Ar achlysuron arbennig yn unig y bydd y cloc yn taro dros yr ychydig flynyddoedd nesaf wrth i atgyweiriadau mawr gael eu gwneud.

Roedd y digwyddiadau heddiw hefyd yn nodi canmlwyddiant brwydr waedlyd Passchendaele yn Fflandrys a chanmlwyddiant sefydlu Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.

Fe fydd digwyddiadau Sul y Cofio yn cael eu cynnal fel arfer yfory.