Mae cwmnïau a gafodd eu preifateiddio wedi talu £37 biliwn mewn taliadau difidend i gyfranddaliadau ers 2010, yn ôl ymchwil gan y Blaid Lafur.

Dywed Canghellor yr Wrthblaid John McDonnell y gallai’r arian yma fod wedi cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gadarnhau cynllun ei blaid i wladoli cwmnïau gwasanaethau a seilwaith allweddol.

Mae’r ymchwil yn dangos bod cwmnïau a gafodd eu preifateiddio wedi talu cyfanswm o £4.8 biliwn mewn taliadau difidend yn 2017, ac ers 2010 bod:

  • dros £10 biliwn wedi ei dderbyn gan gyfranddalwyr y Grid Cenedlaethol
  • £6.3 biliwn gan gyfranddalwyr BT a
  • £5.2 biliwn gan fuddsoddwyr yn Centrica, sy’n berchen ar Nwy Prydain.

“Mae’r taliadau difidend yn dangos bod arian a allai fod wedi cael ei fuddsoddi mewn gwella gwasanaethau yn leinio pocedi buddsoddwyr,” meddai.