Mae Gordon Brown wedi brolio’r modd y mae Jeremy Corbyn wedi rhoi llais i ddicter y cyhoedd ac ymgyrchu tros gymdeithas decach.

Mae arweinydd presennol y Blaid Lafur yn “phenomenon” sydd wedi adfer ffydd pobol yn egwyddorion ei blaid, yn ôl y cyn-Brif Weinidog.

Her nesaf Corbyn, yn ôl Gordon Brown, yw llunio rhaglen lywodraethu sydd yn “gredadwy ac felly yn etholadwy”.

“Mae Jeremy yn phenomenon,” meddai Gordon Brown wrth Radio 4 y BBC.

“Mae wedi torri trwodd oherwydd ei fod yn mynegi dicter pobol at yr hyn sy’n digwydd – yr anniddigrwydd.”

Corbyn wedi tynnu yn groes

Roedd Gordon Brown yn cydnabod bod Jeremy Corbyn wedi tynnu yn groes yn aml iawn yn ystod cyfnod Llafur Newydd.

Tra’r oedd Brown yn Ganghellor ac yna yn Brif Weinidog, bu i Corbyn bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth Lafur tros 500 o weithiau.

“Cyfrifoldeb” Corbyn bellach, meddai, yw “cynhyrchu rhaglen [lywodraethu] sydd wedi ei chostio, yn boblogaidd ac yn radical a blaengar… dyna’r her”.