Mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi gadael llywodraethau eraill gwledydd Prydain heb wybodaeth am fanylion Brexit, meddai Prif Weinidog yr Alban.

Ar drothwy cyfarfod o Gyngor Prydain Iwerddon, mae Nicola Sturgeon yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o dorri addewid i drafod yn iawn gyda’r llywodraethau datganoledig.

Dim ond un cyfarfod sydd wedi bod o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ers mis Mehefin, meddai hi, er y bydd y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith sylweddol ar yr Alban a’r gwledydd eraill.

Fe alwodd ar Lywodraeth Prydain i gadw ei haddewid i roi rôl wirioneddol i’r llywodraethau eraill, gan ddweud eu bod wedi eu “cau allan” o’r trafodaethau Brexit.

Mae Llywodraeth Prydain wedi ateb trwy ddweud bod yr holl lywodraethau wedi cytuno ar yr egwyddorion a gan hawlio bod mwy o drafod wedi bod nag erioed o’r blaen.