Fe fydd Cymru a gweddill gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd am 11 y nos ar 29 Mawrth 2019 – os bydd Llywodraeth Prydain yn cael eu ffordd.

Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Theresa May y bydd y dyddiad yn cael ei ychwanegu at fesur sy’n mynd trwy’r Senedd ar hyn o bryd.

Ac mae wedi rhybuddio ASau rhag ceisio â rhwystro’r broses trwy geisio arafu neu newid y mesur.

Hawl newid meddwl, meddai pensaer rheolau Brexit

Ond mae un o’r diplomyddion a greodd y broses o adael yr Undeb wedi dweud bod modd newid meddwl.

Yn ôl yr Arglwydd Kerr, a helpodd greu Erthygl 50 – y cymal sy’n gosod y rheolau i adael – mae’n bosib atal y broses ar unrhyw bryd.

Fe fydd cyn-Lysgennad y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd yn defnyddio araith heno i rybuddio pobol rhag cael eu twyllo am y broses.