Mae Penny Mordaunt wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, gan gymryd lle Priti Patel yn y cabinet.
Ymddiswyddodd Priti Patel ddydd Mercher (Tachwedd 8) ar ôl iddo ddod i’r amlwg ei bod wedi cynnal cyfarfodydd â gwleidyddion yn Israel heb ganiatâd ei phenaethiaid.
Fe fydd y penodiad yn golygu cadw’r un cydbwysedd rhwng gadawyr ac arhoswyr Ewropeaidd.
Tros Brexit
Fe fu Penny Mordaunt ymgyrchu o blaid Brexit yn ystod refferendwm llynedd, ac mae disgwyl bydd ei phenodiad yn bodloni’r Brexiteers.
Cafodd ei hethol i Dŷ’r Cyffredin yn 2010 a, cyn hyn, roedd hi’n weinidog dros bobol anabl yn yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Y disgwyl yw mai Sarah Newton yn cymryd ei lle yno.